Y cynhwysion gorau a blas arbennig. Does dim byd tebyg i Waffl Tregroes.
A does unman yn debyg i’n becws ni ‘chwaith.
Ein hamgylchedd a’r bobl o’n cwmpas sy’n ein hysbrydoli i greu danteithion heb eu tebyg sy’n cael eu mwynhau a’u canmol ym mhedwar ban byd.
Dechreuodd y cyfan 40 mlynedd yn ôl, pan ymwelodd Kees Huysmans, gŵr o’r Iseldiroedd, â Thregroes am y tro cyntaf a phenderfynu aros. Disgynnodd mewn cariad â Dyffryn Teifi, dysgodd Gymraeg, a throdd ei grefft o greu stroopwafels yn fusnes lleol llewyrchus.
Ac onid yw enw’r pentref, Tregroes yn enw addas ar fusnes waffls sydd wedi para am dros 40 mlynedd? Patrwm cyfarwydd sydd wedi’i naddu i dirwedd cefn gwlad.
Boed yn waffl garamel felys, yn un wedi’i gorchuddio â siocled, neu’n un sawrus – mae ein hangerdd i’w deimlo ym mhob Waffl a ddaw o Dregroes.
Ers y dyddiau cynnar hynny, dyddiau un dyn â’i haearn bobi, rydyn ni wedi datblygu i fod yn fenter genedlaethol arobryn sy’n gwerthu i farchnadoedd byd-eang.
Rydyn ni’n creu hoff ddanteithion ein cwsmeriaid i’r un safonau hyd heddiw yn unig fecws stroopwafels y DU.
Mae’r cwmni wedi bod yn eiddo i’n gweithwyr ers 2015, ac rydyn ni’n falch o fod yn rhan annatod o’n cymuned ac o weithredu er budd y rhai sy’n gyfrifol am ein llwyddiant.
Nod holl dîm Tregroes yw creu’r waffls gorau i’n cwsmeriaid, gan aros yn ffyddlon i ryseitiau syml, traddodiadol yn ogystal â chreu mathau newydd sbon o stroopwafels er mwyn ehangu ein cynnig i gwsmeriaid.
Mae Waffls Tregroes i’w cael mewn archfarchnadoedd, delis, caffis, gwestai boutique a B&Bs ar hyd a lled y wlad.
Ewch i un o’r siopau sy’n gwerthu ein cynnyrch neu PRYNWCH AR-LEIN yn uniongyrchol o’n becws.
Your cart is empty.